NEWS

26 Awst: Rhyddid Celf Cymru (Google Hangout, 11.30am)
Mae Index on Censorship yn falch o gyhoeddi y cyntaf o ddau ddigwyddiad mewn cyfres o drafodaethau ar-lein am ryddid mynegiant artistig yng Nghymru. Mae’r trafodaethau yn ran o raglen sydd yn edrych ar sut y mae rhyddid artistig yn cael ei ystyried, ei gefnogi, ei drafod a’i hyrwyddo ar draws y sector gelfyddydol, yn y cyfryngau, gan y cyhoedd, gan ariannwyr ac gan wnaethurwyr polisi yn y DU.
22 Aug 14

artfreedomwales_welsh_logo Mae Index on Censorship yn falch o gyhoeddi yr ail ddigwyddiad mewn cyfres o drafodaethau ar-lein am ryddid mynegiant artistig yng Nghymru.

Mae’r trafodaethau yn ran o raglen sydd yn edrych ar sut y mae rhyddid artistig yn cael ei ystyried, ei gefnogi, ei drafod a’i hyrwyddo ar draws y sector gelfyddydol, yn y cyfryngau, gan y cyhoedd, gan ariannwyr ac gan wnaethurwyr polisi yn y DU.

Artistiaid yn gweithio yn y Gymraeg – cyfleon a rhwysterau i fynegiant.  

Trafodaeth ar-lein gyda:

  • Mari Emlyn – Cyfarwyddwraig Artistig Galeri.
  • Arwel Gruffydd – Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Bethan JonesParryDarlledwraig, Newyddiadurwraig ac Ysgrifennwraig.
  • Bethan Marlow – Dramodwraig a Storïwraig.
  • Iwan Williams – Cynhyrchydd Creadigol Annibynol a Swyddog Datblygu Creadigol Mentrau Iaith Cymru.

Pan: Awst 26ain 11.30yb
Ble: Google Hangout yma
Sylwer bydd y drafodaeth yn Gymraeg gyda chrynodeb Saesneg ar y diwedd.

Dyma’r ail o bedwar digwyddiad rydym yn eu ffrydio’n fyw yn ystod yr hafa fydd yn arwain at symposiwm am ryddid mynegiant artistig yng Nghymru yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd (27 Tachwedd). Bydd modd i chi anfon cwestiynnau drwy system holi ac ateb Google Hangout neu drydar y panelwyr yn ystod y drafodaeth.

Beth yw’r materion yng Nghymru? Beth yw’r cyfleon? Beth yw’r rhwystrau? Beth sydd gan ryddid mynegiant artistig i wneud gyda phrif drafodaethau celfyddydol a pholisiau – dwyieithrwydd, denu pobl ifanc a lleisiau ethnig amrywiol, ymdopi â thlodi, manteisio ar rwydweithiau diwylliannol newydd, meddu ar lais rhyngwladol?

Hoffem glywed gan bawb sydd yn cynhyrchu ac yn ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru ac sydd â rhywbeth i’w rannu am ryddid mynegiant. Bydd y trafodaethau hyn yn bwydo agenda y symposiwm yng Nghaerdydd a bydd pob un yn rhoi ffocws ar thema gwahanol y byddwn wedi ei ganfod yn ein hymchwil cychwynnol.

Cafodd y drafodaeth ar-lein gyntaf ei gynal ym mis Gorffennaf. Yn cymeryd rhan roedd y dramodydd Tim Price, y gantores, actores a’r ddramodwraig Lisa Jên, y bardd a’r ysgrifennwraig Kathryn Gray a’r artist gweledol Leah Crossley. Mae modd ei wylio yma https://www.youtube.com/watch?v=pNv1J0_jRQY 

Arts Council of Wales supports this programme

Arts Council of Wales supports this programme

READ MORE

CAMPAIGNS

SUBSCRIBE